Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Prif fynedfa 10 Stryd Downing, preswylfa a swyddfeydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig

Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw'r corff gweithredol sy'n llywodraethu Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Llywodraeth cabinet ydyw, gyda Phrif Weinidog sy'n atebol, mewn damcaniaeth, i Frenin y DU, yn bennaeth arni. Dan awdurdod y Prif Weinidog ceir sawl gweinidog cabinet sy'n atebol iddo. Er mwyn gweithredu polisïau'r llywodraeth ceir gweinyddiaethau, dan reolaeth y gweinidogion cabinet, a'r Gwasanaeth Sifil. Ffurfir y llywodraeth gan y blaid wleidyddol sydd gyda'r mwyafrif o seddau yn Nhŷ'r Cyffredin.

Ers cyflwyno datganoli, trosglwyddwyd rhai o bwerau a chyfrifoldebau Llywodraeth y DU i gyrff etholedig ac i'r Adrannau Weithredol yn yr Alban, Cymru, a Gogledd Iwerddon, sef:


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search